Lleoliad:
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Mawrth 2017
Amser: 10.30 - 15.00
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol Rebecca Hardwicke, Cymorth Busnes i'r Aelodau Martin Jennings, Y Gwasanaeth Ymchwil |
Staff y Pwyllgor: |
Daniel Collier, Clerc dros dro Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Fe wnaeth y Fonesig Jane Roberts ddatgan buddiant ar gyfer eitem 3 gan ei bod yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 23 Ionawr 2017 yn amodol ar fân newidiadau.
1.4 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei gyfarfodydd hyd nes mis Mawrth 2018.
1.5 Trafododd y Bwrdd gais Rhyddid Gwybodaeth ar ei waith, a chytunodd nad oedd ganddo wybodaeth ar gyfer y cais.
1.6 Trafododd y Bwrdd y modd y mae Aelodau'r Cynulliad yn defnyddio gwirfoddolwyr a chytunodd â'r cyngor a roddwyd i'r Aelodau.
1.7 Cytunodd y Bwrdd i drafod nifer y swyddfeydd rhanbarthol ac etholaethol y gall Aelodau'r Cynulliad eu prydlesu rhywbryd yn y dyfodol.
1.8 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer rhoi cyngor i Aelodau'r Cynulliad ynghylch contractau prydlesu eu swyddfeydd, a chytunwyd i:
· ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i nodi ei bryderon ynghylch y mater; ac
· adolygu'r broses yn ystod ei drafodaethau ynghylch y pumed Penderfyniad.
1.9 Trafododd y Bwrdd y ffordd orau o ymgysylltu â Phanel Arbenigol y Llywydd ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad o ystyried bod unrhyw un o'i argymhellion y bydd Comisiwn y Cynulliad am weithredu arnynt yn debygol o effeithio ar ei waith. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gadeirydd y Panel i sicrhau bod ganddo gyfle i gyfrannu ar adeg briodol.
1.10 Yn wyneb y cyhoeddiad diweddar gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol ynghylch Aelodau'n penodi aelodau o'u teulu, cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod yr egwyddor hon yn y dyfodol.
1.11 Cytunodd y Bwrdd i fonitro nifer yr hawliadau goramser a hawliwyd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sicrhau bod yr oriau a wneir yn cynnig cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac y gweithredir dyletswydd gofal i'r holl staff.
1.12 Cytunodd y Bwrdd i ganiatáu i'r gyllideb sy'n weddill o'r adolygiad diogelwch gael ei drosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf ond pwysleisiodd cymaint o frys sydd i holl Aelodau'r Cynulliad gynnal y gwaith uwchraddio angenrheidiol ar fyrder.
1.13 Cytunodd y Bwrdd i drafod ei strategaeth ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn ei gyfarfod nesaf.
Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18
2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymateb a gafodd i'r ymgynghoriad ynghylch y cynnydd arfaethedig i gyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18 o 2.1 y cant, yn unol â ffigurau dros dro 2016 yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru.
2.2 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad o 2.1 y cant ar gyfer 2017-18.
2.3 Nododd y Bwrdd fod cyflog Aelodau'r Cynulliad yn cynyddu'n awtomatig yn unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru, fel y nodir yn y Penderfyniad.
Camau gweithredu:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd cyflog ar eu cyfer.
· Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymateb i'r ymgynghoriad yn y dyfodol.
Costau swyddfa ar gyfer 2017-18
2.4 Nododd y Bwrdd na chafwyd unrhyw ymatebion i'w ymgynghoriad ar y cynnydd arfaethedig o 1.2 y cant i lwfans costau swyddfa yn unol â'r amcangyfrif ar gyfer y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym mis Tachwedd 2016.
2.5 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu lwfans costau swyddfa o 1.2 y cant erbyn 2017-18.
Camau gweithredu:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd yn y lwfans costau swyddfa.
Gwariant ar Lety Preswyl
2.6 Nododd y Bwrdd y bydd yr ymgynghoriad i gynyddu gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau sydd y tu allan i'r ardal i £775 y mis yn dod i ben ar 13 Ebrill. Cytunodd y Bwrdd y gwneir penderfyniad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad y tu allan i gyfarfod ffurfiol y Bwrdd.
Camau gweithredu:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r Bwrdd eu hystyried.
3.1 Gwnaeth y Fonesig Jane Roberts ailddatgan ei buddiant. Roedd aelodau'r Bwrdd yn fodlon nad oedd unrhyw wrthdaro buddiannau ac roedd yn fodlon i Jane gyfrannu at yr eitem.
3.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses dendro. Cytunodd y Bwrdd ar y camau nesaf ar gyfer y darn o waith gan nodi y cytunir ar y tendr llwyddiannus y tu allan i'r cyfarfod ffurfiol.
3.3 Cymeradwyodd y Bwrdd y crynodeb ymchwil a roddwyd iddynt gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.
Camau gweithredu:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i weithio â'r tendr llwyddiannus i sicrhau bod eu cynigion a'u hamserlenni yn cyd-fynd â blaenraglen waith y Bwrdd.
4.1 Trafododd y Bwrdd yr holiadur drafft i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth, a chytunwyd:
· Ar fân newidiadau yn y ddau holiadur;
· I ddangos yn glir pam mae agweddau ar y penderfyniad wedi cael eu cynnwys neu eu hepgor o'r holiaduron yn unol â blaenraglen waith ehangach y Bwrdd;
· I dreialu'r holiadur gyda Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a Grŵp Cynrychiolwyr y Staff Cymorth o leiaf; ac
· I nodi ffyrdd arloesol o annog y ddau grŵp i gwblhau'r holiaduron.
Camau gweithredu:
· Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r holiaduron fel sydd ei angen, a'u dosbarthu eto yn electronig i'r Bwrdd eu hadolygu.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno treial ar gyfer yr holiadur.
· Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno'r holiadur terfynol yn electronig ac ar gopïau caled unwaith y cytunir arnynt.
5.1 Nododd y Bwrdd adroddiad Gorwel 'Has Wales developed a political elite?'.
Unrhyw fater arall
Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Claire Clancy, y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad sydd â'i chyfnod yn dod i ben, i ddiolch iddi ar ran y Bwrdd hwn a Byrddau blaenorol am y gefnogaeth y roddodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Manon Antoniazzi i'w chroesawu i'w swydd newydd.